R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer 2014 cyn i unrhyw drefniadau newydd gael eu cyflwyno?OAQ(4)0381(HSS)W
2. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl Abertawe yn 2014? OAQ(4)0368(HSS)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu staff yn GIG Cymru. OAQ(4)0372(HSS)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at therapi seicolegol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru? OAQr(4)0376(HSS)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y driniaeth a’r cymorth i gleifion Dystonia yng Nghymru? OAQ(4)0369 (HSS)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffigurau diweddaraf am farwolaethau a ryddhawyd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0375(HSS)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata marwolaethau y byrddau iechyd? OAQ(4)0366(HSS)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu hyfforddiant i seicolegwyr? OAQ(4)0367(HSS)
9. Alun Ffred Jones (Arfon):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ddwyieithog gan
feddygon teulu yn ardal Betsi Cadwaladr?
OAQ(4)0380(HSS)W
10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y polisi presgripsiynau am ddim ar ganlyniadau iechyd meddwl cleifion yng Nghymru? OAQ(4)0365(HSS)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng Nghymru wledig? OAQ(4)0373(HSS)
12. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer ymchwil feddygol yng Nghymru? OAQ(4)0378(HSS)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar ag Ysbyty Treforys gyda’r Gweinidog Cyllid cyn y Nadolig? OAQ(4)0370(HSS)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0382(HSS)W
15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y driniaeth sydd ar gael i gleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin? OAQ(4)0379(HSS)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael â Swyddogion y Gyfraith ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yn ystod y mis diwethaf? OAQ(4)054(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynglŷn â chyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys? OAQ(4)055(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl i gael gafael ar gyllid fforddiadwy? OAQ(4)0112(CTP)
2. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i Undebau Credyd? OAQ(4)0121(CTP)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y sector gwirfoddol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0109(CTP)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf ar gyfer dethol y sefydliadau a’r prosiectau sydd wedi llwyddo i gael cyllid drwy’r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant? OAQ(4)0124(HSS)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol? OAQ(4)0119(CTP)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)0108 (CTP)
7. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0111(CTP)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr o ran mynd i’r afael ag effeithiau’r tywydd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd? OAQ(4)0117(CTP)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0115(CTP)W
10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa asesiad y mae wedi’i wneud o’r strategaethau sydd eisoes yn bodoli i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru? OAQ(4)0118(CTP)
11. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa arferion da i drechu tlodi a welodd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn ystod ei ymweliad ag Abertawe yr wythnos diwethaf? OAQ(4)0116(CTP)
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am glystyrau’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)010(CTP)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau tlodi trafnidiaeth ledled Cymru? OAQ(4)0122(CTP)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiau preifateiddio’r Post Brenhinol ar y gwasanaeth yng Nghymru? OAQ(4)0114(CTP)W
15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella cydlyniant cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0113(CTP)